Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
11:00 - 11:54 |
|
|||
|
|
||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Julie James (Cadeirydd) Byron Davies Eluned Parrott David Rees Leanne Wood |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Lara Date (Clerc) Meriel Singleton (Dirprwy Glerc) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
2. Y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael : Ystyried Tystiolaeth Ysgrifenedig
2.1 Bu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn trafod y dystiolaeth ysgrifenedig a ddaeth i law.
3. Y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael : Ffyrdd o Weithio
3.1 Cytunodd y Pwyllgor i ddiwygio’r cylch gorchwyl er mwyn cynnwys contractau o dan y trothwyau caffael a bennir gan Gyfarwyddebau’r Undeb Ewropeaidd. Cytunwyd ar y cylch gorchwyl diwygiedig a ganlyn:
· Pa mor effeithiol yw’r rheoliadau caffael presennol o ran y modd y maent yn cael eu gweithredu yng Nghymru, a hynny o safbwynt cyflenwyr/contractwyr ac o safbwynt awdurdodau prynu?
· Sut y byddai’r newidiadau arfaethedig i Gyfarwyddebau perthnasol yr UE yn effeithio ar y broses caffael cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys y materion a ganlyn:
o ymgysylltiad busnesau bach a chanolig (gan gynnwys mentrau cymdeithasol) yn y broses caffael cyhoeddus;
o defnyddio caffael cyhoeddus i ddiwallu amcanion polisi eraill (fel polisïau cymdeithasol ac amgylcheddol);
o cymhlethdodau a hyblygrwydd rheolau caffael presennol;
o gwerth am arian i’r awdurdod prynu?
· Sut y dylid moderneiddio Cyfarwyddebau caffael yr UE a’r rheoliadau gweithredu a’r codau ymarfer yng Nghymru i ddiwallu anghenion awdurdodau prynu a chyflenwyr/contractwyr Cymru? Yn arbennig, sut y dylid ail-lunio rheoliadau a/neu ganllawiau ar gyfer contractau sy’n syrthio islaw’r trothwyau caffael a bennir gan Gyfarwyddebau’r UE?
3.2 Trafododd y Pwyllgor themâu allweddol a oedd yn deillio o’r ymchwiliad, a chytunodd yr Aelodau y byddai pob un ohonynt yn arwain ar un thema benodol yn ystod yr ymchwiliad.
4. Y Grwp Gorchwyl a Gorffen ar Gaffael : Amserlennu Cyfarfodydd
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i gyfarfod ar y dyddiadau a ganlyn:
· 19 Ionawr - prynhawn
· 2 Chwefror - bore
· 8 Chwefror
· 23 Chwefror - prynhawn
4.2 Cytunodd y Pwyllgor i gael tystiolaeth gan y tystion a ganlyn:
· Cynrychiolwyr o lywodraeth leol (Sir Gaerfyrddin a Rhondda Cynon Taf);
· Aelodau’r diwydiant adeiladu;
· Aelodau’r sector fusnes;
· Cynrychiolwyr o’r Trydydd Sector;
· Yr Athro Kevin Morgan;
· Gwerth Cymru;
· Cynrychiolwyr caffael yn y GIG;
· Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ;
· Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.